Tystebau

Yn ddi-ffael, mae Ceidiog bob amser yn sicrhau sylw yn y wasg i’n holl straeon. Mae ei allu i lunio datganiadau teilwng a diddorol i’r wasg a’i gysylltiadau eang yn y cyfryngau yn ddiguro!

Lowri Owain,

Rheolwr

Cadwyn Clwyd

Aeth Cyfathrebu Ceidiog ati heb oedi i helpu i hyrwyddo ein busnes. Maen nhw wedi meddwl am gyfres o syniadau cyffrous a llawn dychymyg sydd wedi denu diddordeb o bell ac agos.

Roedd eu hymgyrch Môr-forwyn yn sicr yn syniad campus ac roedd ein henw yn ymddangos ar wefannau ac mewn papurau newydd yn y DU yn ogystal ag ar draws y byd.

Roedd y straeon a baratowyd ganddyn nhw wedi’u hysgrifennu’n dda ac roedd ffotograffau ardderchog yn cyd-fynd â nhw.  Ond yn bwysicach na dim, cawsant dderbyniad da iawn gan y cyfryngau.

Roedd y gwaith a wnaethant dros y Rhyl a Phrestatyn wrth ein bodd, yn enwedig eu hagwedd broffesiynol a’u parodrwydd i helpu.

Colette Macdonald,

Rheolwr

Seaquarium

Rydym yn edrych ar Cyfathrebu Ceidiog fel estyniad o’n tîm ar y safle. Maen nhw’n deall ein model busnes sy’n eu galluogi i fynd ati’n rhagweithiol i fachu pob cyfle sy’n codi. Mae eu canlyniadau wedi rhagori’n fawr iawn ar ein disgwyliadau, gan ddenu sylw lleol a rhanbarthol yn gyson yn ogystal â’r sylw cenedlaethol a rhyngwladol a ddenodd ein hymgyrch ar gyfer y Mona Lisa Fwyaf yn y Byd. Mae agwedd broffesiynol y tîm wedi creu argraff arnaf ac mae eu hymroddiad a’u hawydd i sicrhau canlyniadau yn ddi-baid.

Kaye Walker,

Cyfarwyddwr Cyswllt

Tîm Rheoli Canolfannau Siopa, Jones Lang LaSalle Ltd

Mae arbenigedd a chraffter Ceidiog wedi bod yn amhrisiadwy i’n Gŵyl. Mae ei strategaethau blaenllaw wedi codi ein proffil a sicrhau ein lle fel un o brif ddigwyddiadau’r rhanbarth. Golyga cysylltiadau Ceidiog a’i wybodaeth o’r cyfryngau ei fod yn siop un-stop sy’n gyfeillgar, yn broffesiynol ac yn effeithiol

Ann Atkinson,

Cyfarwyddwr Artistig

Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

Mae Cyfathrebu Ceidiog wedi ein helpu i gyflawni mwy o lawer nag yr oeddem yn dychmygu ei fod yn bosibl yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Ym maes gofal cymdeithasol, rydym bob amser yn gorfod ymateb yn gyflym dros ben i gyhoeddiadau’r Llywodraeth neu’r materion mwyaf sensitif o ran rheoli argyfwng ac mae’r ffaith fod y gefnogaeth ragorol yma ar gael bob awr o’r dydd a’r nos yn rhoi tawelwch meddwl mawr i ni.

O ran y gwerth a roddir i’r sefydliad, rydym bob amser wrth ein bodd â’r ffaith fod gennym Gysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol fel y gallwn hybu’r brand yn y cyfryngau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae hyn wedi helpu i sefydlu brand Parc Pendine ymhell y tu hwnt i’r ardal leol ac mae ein straeon bachog yn derbyn sylw ar draws sector gofal y Deyrnas Unedig.

Mario Kreft,

Cadeirydd

Gwobrau Gofal Cymru Cyf

Mae agwedd greadigol, broffesiynol a chyfeillgar Cyfathrebu Ceidiog wedi creu argraff
fawr arnaf. Fi fyddai’r cyntaf i ganmol ac argymell y gwasanaeth, sydd bob amser yn arloesol ac
yn effeithiol. Rwyf wastad wedi teimlo y gallwn ymddiried yn y cwmni fel un gonest a dibynadwy a
chredaf fod hyn yn werthfawr dros ben pan fyddwch yn ceisio hyrwyddo eich busnes a’r
ardal oddi amgylch mewn ffyrdd newydd.

Andy Walker,

Rheolwr

Parc Carafannau Tree Tops, Gwespyr