Ceidiog TV

Amdanom Ni

nia_ceidiog

Mae Ceidiog yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer pob ac unrhyw lwyfan. Rydyn ni’n arbenigo mewn deunydd ar gyfer Plant, Ffeithiol ac Adloniant. Rydyn ni’n gweithio adre a thramor – gyda didwylledd a pharch at ddiwylliant.

Sefydlwyd y cwmni yn 1996 gan Nia Ceidiog – Darlledwr, Sgwennwr, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr profiadol.

Er hynny rydyn ni wedi cynhyrchu ymhob genre ar gyfer teledu – o Ffeithiol ac Adloniant Ffeithiol i Ddogfen a Phlant.

Yn ddiweddar, symudon ni i gartref newydd ym Mhontypridd – a chyn bo hir bydd ein stiwdio yn barod ac fe fyddwn yn cynhyrchu rhaglenni yno!