{"id":7486,"date":"2014-03-19T15:35:00","date_gmt":"2014-03-19T13:35:00","guid":{"rendered":"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/news\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/"},"modified":"2014-03-19T15:35:00","modified_gmt":"2014-03-19T13:35:00","slug":"carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/","title":{"rendered":"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb"},"content":{"rendered":"<p>Bydd carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb deimladwy i gofio&#8217;r berthynas agos rhwng pobl Caergybi a morwyr o&#8217;r Iseldiroedd a wasanaethodd yn y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n<p>Bwriedir defnyddio nifer o flociau o garreg sgist mica gwyrdd lleol o Chwarel Jersey ar Fynydd Caergybi, fu\u2019n segur ers peth amser bellach, ar gyfer y Gofeb a fydd yn cael ei chodi ar Draeth Newry, Caergybi yn ddiweddarach y gwanwyn yma.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK89-ceidiog.jpg\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4611\" alt=\"Stone being extracted from a quarry in Holyhead for Dutch Mariners? Memorial.From left,\" src=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK89-ceidiog.jpg\" width=\"400\" height=\"267\" srcset=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK89-ceidiog.jpg 400w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK89-ceidiog-300x200.jpg 300w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK89-ceidiog-308x205.jpg 308w\" sizes=\"(max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r garreg wedi cael ei rhoi yn rhodd i&#8217;r prosiect gan Gyngor Sir Ynys M\u00f4n trwy ei Wasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio gyda&#8217;r RSPB, sy&#8217;n lesio safle\u2019r chwarel, a bydd yn ffurfio rhan sylweddol o&#8217;r gofeb a fydd yn cynnwys arwyddlun efydd Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd wedi\u2019i osod mewn cast concrid, ynghyd \u00e2 meinciau wedi\u2019u gwneud o dderw Cymreig neu bren t\u00eec wedi\u2019i adfer.<\/p>\n<p>Mae wedi cael ei chynllunio gan benseiri adfer Purcell, sydd wedi gweithio ar Abaty Westminster ac Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Neuadd St George Lerpwl, yn ogystal \u00e2 Chofadail Caergybi.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/Monument-Visual-FINAL-copyright_Purcell-architects-ceidiog.jpg\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4612\" alt=\"Monument Visual FINAL copyright_Purcell architects ceidiog\" src=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/Monument-Visual-FINAL-copyright_Purcell-architects-ceidiog.jpg\" width=\"400\" height=\"304\" srcset=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/Monument-Visual-FINAL-copyright_Purcell-architects-ceidiog.jpg 400w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/Monument-Visual-FINAL-copyright_Purcell-architects-ceidiog-300x228.jpg 300w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/Monument-Visual-FINAL-copyright_Purcell-architects-ceidiog-308x234.jpg 308w\" sizes=\"(max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r gofeb yn cael ei hadeiladu gan Grosvenor Construction, Bae Cinmel, sy\u2019n arbenigo mewn adfer adeiladau hanesyddol, yn eu plith lleoliadau eiconig megis Cestyll Harlech a Chonwy, Neuadd y Dref Lerpwl, Muriau Caer a Melin Wynt Mynydd Parys.<\/p>\n<p>Bydd y gwaith diweddaraf yn dathlu&#8217;r berthynas rhwng pobl Caergybi a&#8217;r Iseldiroedd, a\u2019r morwyr hynny o longau Llynges yr Iseldiroedd a ffodd o\u2019i mamwlad mewn ymdrech i gadw un cam ar y blaen i fyddin yr Almaen, wrth i\u2019r Blitzkrieg sgubo tua\u2019r gorllewin yn 1940.<\/p>\n<p>Hwyliodd un llong ryfel gyflym, y <em>Jacob Van Heemskerk<\/em>, a fyddai fel arfer \u00e2 chriw o 400 ar ei bwrdd, gyda dim ond 23 o ddynion arni ar draws M\u00f4r y Gogledd er mwyn dianc oddi wrth yr Almaenwyr. Fe ddiweddodd y llong, ynghyd \u00e2 llawer o rai eraill, yng Nghaergybi lle chwaraeodd r\u00f4l hanfodol ym Mrwydr allweddol M\u00f4r Iwerydd yn yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n<p>Roedd llawer o&#8217;r llongau a\u2019r dynion wedi\u2019u lleoli yng Nghaergybi lle roeddent yn gwneud gwaith pwysig o glirio ffrwydrynnau yn y m\u00f4r er mwyn cadw&#8217;r llwybrau\u2019n glir ar gyfer confois m\u00f4r allweddol Prydain ar eu ffordd i Lerpwl.<\/p>\n<p>Cafodd yr Iseldirwyr groeso cynnes ac fe wnaeth llawer ohonynt briodi\u2019n lleol a setlo yn y dref, yn eu plith Mathieu Van Weert, ac mae ei fab, Graham, wrth ei fodd bod y cysylltiad yn cael ei goff\u00e1u.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0609DutchMemorial07-ceidiog.jpg\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-full wp-image-4613\" alt=\"Dutch War Memorial Holyhead.  Pictured are Graham Van Weert?s parents, Mathieu and Megan, nee Parry.\" src=\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0609DutchMemorial07-ceidiog.jpg\" width=\"400\" height=\"267\" srcset=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0609DutchMemorial07-ceidiog.jpg 400w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0609DutchMemorial07-ceidiog-300x200.jpg 300w, https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0609DutchMemorial07-ceidiog-308x205.jpg 308w\" sizes=\"(max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Roedd Graham, gwirfoddolwr yn Amgueddfa Forwrol nodedig Caergybi yn Chwarel Jersey gyda rhai o&#8217;i gydweithwyr i weld y garreg yn cael ei dewis, a dywedodd: \u201cMae&#8217;n hollol wych, fedra i ddim credu ei fod yn digwydd go iawn.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n beth arbennig cofio\u2019r bobl ddaeth i Gaergybi a nodi&#8217;r cysylltiad rhwng pobl Ynys M\u00f4n a chenedl yr Iseldiroedd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yn bwysig iawn iddyn nhw eu bod yn cael croeso a theimlo&#8217;n gartrefol yma ac mae\u2019r lletygarwch yna\u2019n nodweddiadol o bobl Caergybi a ddaeth yn ail gartref i\u2019r morwyr o\u2019r Iseldiroedd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd tad Graham yn un o 116 o forwyr o\u2019r Iseldiroedd i briodi merched lleol. Cyfarfu \u00e2 Megan Parry, o Gaergybi, mewn dawns yn y dref ac meddai Graham: \u201cMi wnaeth fy mam ei weld o trwy ffenestr siop, a dim ond un o sawl stori ramantus yw honno.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yr ardal o amgylch y chwarel yn lle eithaf rhamantus lle\u2019r oedd cyplau\u2019n arfer mynd i gerdded. Mae&#8217;n lle hyfryd gyda golygfeydd o gefn gwlad a\u2019r m\u00f4r ac felly mae&#8217;n addas iawn fod y garreg yn dod o\u2019r llecyn yma.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r chwarel ei hun wedi chwarae ei ran yn nhraddodiadau morwrol Caergybi &#8211; cyfrannodd saith miliwn tunnell o gerrig ar gyfer morglawdd yr harbwr, y morglawdd hiraf yn y DU ac ar un cyfnod yr hiraf yn Ewrop hefyd, a defnyddiwyd llawer o gerrig a briciau o&#8217;r gwaith brics cysylltiedig i godi llawer o adeiladau&#8217;r dref.<\/p>\n<p>Caiff y cyswllt gyda&#8217;r Iseldiroedd &#8211; daeth Mathieu o Maastricht lle mae gan Graham berthnasau o hyd &#8211; ei gryfhau ymhellach eleni pan mae disgwyl i un o longau Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd ymweld \u00e2 Chaergybi ar gyfer dadorchuddio\u2019r gofeb.<\/p>\n<p>Dywedodd Jane Osborne, o Grosvenor Construction: \u201cByddwn yn mynd \u00e2\u2019r garreg fwyaf a&#8217;r orau draw i\u2019n iard ym Mae Cinmel lle mae gennym dri saer maen arbenigol, a fydd wedyn yn asesu sut y gellir ei defnyddio orau i gyflawni&#8217;r cynllun arfaethedig. Mae&#8217;r math yma o garreg yn ddeunydd heriol oherwydd ei nodweddion a\u2019i chaledwch arbennig, ac efallai bydd gofyn gwneud rhai newidiadau.<\/p>\n<p>\u201cBydd hynny\u2019n cael ei wneud trwy ddilyn manyleb fanwl ac yna bydd y cast efydd yn cael ei osod i mewn iddo a chwblhau gweddill y gwaith adeiladu fel ei bod yn barod ar gyfer y dadorchuddiad arbennig.<\/p>\n<p>\u201cMae ein holl staff yn ddeiliaid cerdyn Sgiliau Treftadaeth Aur, a ni fydd yn gwneud y gofeb ac yn ei gosod yn ei lle.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n brosiect arbennig iawn ac rydym yn hynod falch o gael rhan mewn coff\u00e1u\u2019r cyswllt hanesyddol yma rhwng Ynys M\u00f4n a&#8217;r Iseldiroedd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Cynghorydd Sir Caergybi, Bob Llewellyn Jones: \u201cMae&#8217;n nodweddiadol o Gaergybi i roi croeso cynnes i forwyr, yn enwedig yn ystod rhyfel.<\/p>\n<p>\u201cRoedd llawer o&#8217;r Iseldirwyr yn ddynion ifanc ac fe wnaethon nhw gyfarfod \u00e2 merched lleol ac ymgartrefu yma, ac maen nhw wedi bod yn rhan werthfawr iawn o&#8217;r gymuned yn y dref ac mae wyrion a hyd yn oed gor-wyrion y morwyr yma o\u2019r Iseldiroedd ac enwau Iseldireg yn dal yma heddiw.<\/p>\n<p>\u201cRoedden nhw&#8217;n ddewr iawn ac fe wnaethon nhw chwarae rhan fawr yn ein hanes. Mae hon yn gofeb addas iawn ac rwy&#8217;n falch iawn eu bod wedi cael eu cydnabod ac rwy\u2019n gobeithio y bydd yn annog rhai o&#8217;u perthnasau yn yr Iseldiroedd i ymweld \u00e2&#8217;r dref.\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r arian ar gyfer y Gofeb wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, drwy Fenter Treftadaeth Gymunedol ar gyfer Ymgysylltiad Morwrol (CHIME), Grant Eiddo ac Amgylchedd Cyngor Sir Ynys M\u00f4n (PEG) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Tref Caergybi a sefydliadau ac unigolion lleol.<\/p>\n<p>Llwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer y rhan fwyaf o gostau&#8217;r prosiect, ond dros y misoedd i ddod bwriedir cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian lleol, y gall pobl eu mynychu neu gyfrannu yn uniongyrchol i Amgueddfa Forwrol Caergybi ar Draeth Newry, Caergybi , neu yn <a href=\"http:\/\/www.holyheadmaritimemuseum.co.uk\/\">www.holyheadmaritimemuseum.co.uk<\/a><\/p>\n<div class=\"linkwithin_hook\" id=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\"><\/div><script>\n<!-- \/\/LinkWithinCodeStart\nvar linkwithin_site_id = 305108;\nvar linkwithin_div_class = \"linkwithin_hook\";\n\/\/LinkWithinCodeEnd -->\n<\/script>\n<script src=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/widget.js\"><\/script>\n<a href=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/\"><img src=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/pixel.png\" alt=\"Related Posts with Thumbnails\" style=\"border: 0\" \/><\/a>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb deimladwy i gofio&#8217;r berthynas agos rhwng pobl Caergybi a morwyr o&#8217;r Iseldiroedd a wasanaethodd yn y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bwriedir defnyddio nifer o flociau o garreg sgist mica gwyrdd lleol o Chwarel Jersey ar Fynydd Caergybi, fu\u2019n [..]<a href=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\"><\/p>\n<p> Continue Reading <\/a><\/p>\n<script>\n<!-- \/\/LinkWithinCodeStart\nvar linkwithin_site_id = 305108;\nvar linkwithin_div_class = \"linkwithin_hook\";\n\/\/LinkWithinCodeEnd -->\n<\/script>\n<script src=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/widget.js\"><\/script>\n<a href=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/\"><img src=\"http:\/\/www.linkwithin.com\/pixel.png\" alt=\"Related Posts with Thumbnails\" style=\"border: 0\" \/><\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":11892,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[1729],"tags":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v19.10 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Bydd carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb deimladwy i gofio&#8217;r berthynas agos rhwng pobl Caergybi a morwyr o&#8217;r Iseldiroedd a wasanaethodd yn y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bwriedir defnyddio nifer o flociau o garreg sgist mica gwyrdd lleol o Chwarel Jersey ar Fynydd Caergybi, fu\u2019n [..] Continue Reading\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2014-03-19T13:35:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK47-ceidiog.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"400\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"267\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"alistair\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"alistair\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\",\"url\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\",\"name\":\"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#website\"},\"datePublished\":\"2014-03-19T13:35:00+00:00\",\"dateModified\":\"2014-03-19T13:35:00+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/e0b3d9df66ff8051719ac8e7272240a6\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#website\",\"url\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/\",\"name\":\"\",\"description\":\"Just another Ceidiog site\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/e0b3d9df66ff8051719ac8e7272240a6\",\"name\":\"alistair\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8fd5aa6bc872e46dc6eba6f146b089a7?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8fd5aa6bc872e46dc6eba6f146b089a7?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"alistair\"},\"sameAs\":[\"http:\/\/ceidiog.com\/pr\/\"],\"url\":\"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/author\/alistair\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -","og_description":"Bydd carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb deimladwy i gofio&#8217;r berthynas agos rhwng pobl Caergybi a morwyr o&#8217;r Iseldiroedd a wasanaethodd yn y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bwriedir defnyddio nifer o flociau o garreg sgist mica gwyrdd lleol o Chwarel Jersey ar Fynydd Caergybi, fu\u2019n [..] Continue Reading","og_url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/","article_published_time":"2014-03-19T13:35:00+00:00","og_image":[{"width":400,"height":267,"url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK47-ceidiog.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"alistair","twitter_misc":{"Written by":"alistair","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/","url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/","name":"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb -","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#website"},"datePublished":"2014-03-19T13:35:00+00:00","dateModified":"2014-03-19T13:35:00+00:00","author":{"@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/e0b3d9df66ff8051719ac8e7272240a6"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/newyddion\/carreg-o-chwarel-hanesyddol-yng-nghaergybi-yn-cael-ei-defnyddio-i-wneud-cofeb\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Carreg o chwarel hanesyddol yng Nghaergybi yn cael ei defnyddio i wneud cofeb"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#website","url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/","name":"","description":"Just another Ceidiog site","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/e0b3d9df66ff8051719ac8e7272240a6","name":"alistair","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8fd5aa6bc872e46dc6eba6f146b089a7?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8fd5aa6bc872e46dc6eba6f146b089a7?s=96&d=mm&r=g","caption":"alistair"},"sameAs":["http:\/\/ceidiog.com\/pr\/"],"url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/author\/alistair\/"}]}},"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/files\/2014\/03\/0302ROCK47-ceidiog.jpg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7486"}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7486"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7486\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11892"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7486"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7486"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceidiog.com\/pr\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7486"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}