Dwi wrthi’n fframio’n tystysgrif Enwebiad Gwobrau Rhaglenni y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Horrible Histories gyda’i sgriptio gwych, ei actio penigamp a’i ddull arbennig o gyflwyno hanes i blant aeth a hi. Hefyd yn yr un categori ag Y Diwrnod Mawr, fe enwebwyd y ffefryn meithrin Mr Tumble a’r rhaglen Something Special. Roedd clywed llais ein harwr bach o Bentrefoelas yn deud “Fi di Sion a hwn ‘di diwrnod mawr fi. Dwi’n mynd i werthu John Parry” yng nghanol mor o Saesneg yn brofiad gwefreiddiol!
-
Newyddion
Archif
Categories
- No categories