Pe bai gen i ond un ddoler ar ôl, fe’i gwariwn ar Gysylltiadau Cyhoeddus—Bill Gates
Cwmni cysylltiadau cyhoeddus dynamig, cost-effeithiol, sy’n chwilio am ganlyniadau yw Cyfathrebu Ceidiog.
Sefydlwyd y cwmni yn 2004 gan Ceidiog Hughes sy’n arwain tîm dygn o gyn-newyddiadurwyr sydd â’r gallu i roi ein cleientiaid lle maen nhw eisiau bod – ar y blaen.
Rydym yn defnyddio ein harbenigedd ym maes cysylltiadau cyhoeddus i gyflwyno negeseuon pwrpasol, darbwyllol a phwerus sy’n onest, yn gymedrol ac yn ddeniadol.
O ganlyniad, mae ein cleientiaid wedi elwa o dderbyn sylw ar y teledu, ar y radio, mewn papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â’r wasg ranbarthol a phapurau newydd lleol.
Dyma Rydym Yn Ei Wneud
- Cysylltiadau â’r cyfryngau
- Rheoli enw da
- Rheoli argyfwng
- Lansio cynnyrch a chwmnïau
- Cyhoeddiadau ac e-Newyddlenni
- Fideos ansawdd darlledu