Mae myfyriwr dwy ar bymtheg mlwydd oed yn cael digon o gefnogaeth ar ôl dechrau yn y coleg -gan ei nain!
Mae Seren Cynfal a’i nain, Anwen Jones, 56, wedi cofrestru ar gyfer cynllun arloesol yng Ngholeg Harlech, coleg yr ail gyfle.
Maent yn cymryd rhan ym mhrosiect y Farchnad Lafur Drosiannol (MLD) sydd wedi’i gynllunio i ddarparu cyflogaeth tymor byr er mwyn helpu pobl heb waith i ddod o hyd i waith.
Mae’n cael ei redeg ar y cyd gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Dywedodd Seren, sy’n byw yn Llan Ffestiniog: “”Does yna ddim llawer o bobl sy’n cael mynd i weithio gyda’u nain! Dw i wir yn mwynhau’r prosiect ac yn dysgu sgiliau newydd drwy’r amser.
“Ers i mi fod yma rwyf wedi cael profion ac rwyf wedi darganfod fy mod yn ddyslecsig, rhywbeth nad oeddwn yn ymwybodol ohono yn yr ysgol.
“Rwyf wedi mwynhau yn fawr bod yn rhan o’r prosiect hwn yng Ngholeg Harlech gan fy mod wedi cael llawer o brofiadau newydd, o ddefnyddio stiwdio recordio i ddysgu sut i ysgrifennu CV da, a sut i fynd ati i baratoi ar gyfer cyfweliad am swydd.
“Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol dros ben a fydd, gobeithio, yn fy helpu i gael swydd, rhywbeth sydd o wir ddiddordeb i mi, yn y dyfodol.”
Roedd ei nain yr un mor gadarnhaol am y prosiect MLD
Dywedodd: “Rwy’n gweithio ar brosiect aml-gyfrwng yma yng Ngholeg Harlech sydd o help mawr i mi. Rwyf wedi bod yn ddi-waith ers peth amser ac mae’n mynd yn anoddach i ddod o hyd i swyddi i wneud cais amdanynt, heb sôn am gael un.
“Fe wnes i redeg fy musnes bistro fy hun ond yn anffodus ni wnaeth pethau weithio allan. Ers i mi fod yma yng Ngholeg Harlech rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd.
“Rwy’n gorffen ym mis Ionawr ac Seren yma tan fis Ebrill. Byddaf wedyn mewn lle gwell i symud yn ôl i gyflogaeth.”
Yn ôl Gweithiwr Datblygu Coleg Harlech, James Berry, mae’r prosiect yn un poblogaidd iawn.
Meddai: “Mae Seren ac Anwen yn gweithio yn y coleg o ddydd i ddydd er eu bod yn gwneud pethau gwahanol.
“Mae Seren yn gweithio ochr yn ochr ag 13 o bobl ifanc eraill wrth ddysgu sgiliau a disgyblaethau newydd a fydd yn siŵr o’u helpu mewn marchnad swyddi hynod o galed a chynyddol anodd.
“Yn achos Anwen mae’n ymwneud â deffro sgiliau sydd eisoes, efallai, ganddi hi a’i chydweithwyr, ond gan ddysgu llawer o rai newydd hefyd.”
Daeth Victoria Milton, 16 oed, i wybod am y prosiect MLD ar ôl gweld hysbyseb ar wal siop sglodion yn y Bermo.
Meddai: “Doeddwn i ddim yn mynd i’r ysgol gan fy mod i wedi gorffen fy arholiadau TGAU ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i waith. Fe ddechreuais i ar y prosiect ac mae wedi bod yn brofiad arbennig o dda, Mae wedi agor fy llygaid.
“Rwyf wedi bod eisiau canu erioed ac rwyf wedi gallu defnyddio stiwdio recordio Coleg Harlech i wneud CD.
“Rwyf wedi bod eisiau canu ac rwyf wedi bod i ysgol berfformio. Mewn gwirionedd rwyf wedi bod yn canu ers i mi fod yn dair oed ac rwy’n gobeithio mynd ymlaen efallai, i astudio cerddoriaeth, Saesneg neu hyd yn oed ffasiwn.
“Y peth pwysicaf yw fy mod yn teimlo’n fwy abl i fynd i’r afael â chyfweliadau am swyddi a chael mwy o hyder yn fy hun. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd a fydd yn fy helpu pan ddaw hi’n amser chwilio am waith yn y dyfodol. ”
Dywed Trefor Fôn Owen, Prifathro Coleg Harlech, fod y cynllun MLD wedi bod yn gyfle gwych i’w staff gefnogi pobl sydd eisiau mynd yn ôl i fyd gwaith.
Dywedodd: “Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect yma yn y coleg wedi integreiddio i wead y sefydliad. Mae ein staff yn ymroddedig iawn ac mae’r prosiect wedi ein galluogi i ddod ag aelodau newydd o staff i mewn hefyd.
“Mae hwn wedi bod yn gynllun peilot ac rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sydd wedi darparu cyllid i gefnogi’r rhaglen.
“Rydym wedi dysgu bod angen mwy o gefnogaeth ar rai o’n pobl ifanc na gweithwyr cyflogedig eraill o bosibl. Rydym wedi darparu’r cymorth yna wrth iddynt ddysgu sgiliau cyflogaeth newydd pwysig. ”
“Mae’r bobl ifanc yma wedi dod yn bell mewn cyfnod byr. Maent wedi aeddfedu ac maent yn amlwg wedi cynyddu mewn hyder, ac ar ddiwedd y prosiect, byddant yn gallu mynd allan a chael cyfle cyfartal yn y farchnad swyddi. ”
Ychwanegodd James Berry: “Mae’r prosiect MLD yn ymwneud â rhoi siawns i bobl ifanc a chyfle
hefyd iddynt ddangos eu potensial a bod ganddynt rhywbeth i’w gynnig. Efallai bod eisiau cymorth arnynt gyda llythrennedd a rhifedd ond mae popeth yr ydym a wnawn wedi ei anelu at eu gwneud yn gyflogadwy a gwella eu siawns o gael swydd.
“Rydym yn cynnal mewn digon o weithgareddau sy’n adeiladu hyder, ond hefyd cyflogadwyedd. Rydym yn cynnal sesiynau ar lenwi ffurflenni, CVs, sgiliau cyfweliad a chynllunio.
“Mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut i gynllunio y diwrnod, sut i reoli eu hamser, yn ogystal â sut i
siarad yn hyderus, sut i wisgo a sut i ymddwyn yn briodol. Sgiliau allweddol ond sgiliau efallai nad ydynt wedi rhoi digon o sylw iddynt cyn hyn.
“Rwy’n falch iawn o’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. Maent wedi dod yn bell iawn mewn cyfnod byr a thrwy weithio gyda’i gilydd mae ganddynt llawer mwy o sgiliau swyddi erbyn hyn nag oedd ganddynt o’r blaen. Y cyfan sydd ei angen yn awr yw i gyflogwyr roi cyfle iddynt. ”
Dywedodd Prif Weithredwr CGGC Graham Benfield OBE: “Mae Prosiect y Farchnad Lafur Drosiannol yn cefnogi tua 1,500 o bobl economaidd anweithgar i gael swyddi parhaol ar draws Gogledd a Dwyrain Cymru, gan roi hwb i sgiliau a chymwysterau seiliedig ar waith dros 3,000 o bobl.
“Mae ymyriadau fel hyn yn hanfodol yn yr hinsawdd bresennol.”