Mae pennaeth cwmni teledu annibynnol wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am anrhydedd fawr am yr eildro eleni, ar gyfer cyfres ddogfen i blant cyn oed ysgol sy’n torri tir newydd.
Bydd Nia Ceidiog, o Gaerdydd, a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen, yn cystadlu yn erbyn rhai o’r enwau mwyaf ym myd darlledu yn rownd derfynol Gwobrau Plant yr Academi Frenhinol 2010.
[:]
Daw hyn yn dynn ar sodlau cael ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr ryngwladol Rose d’Or ar gyfer ‘Y Diwrnod Mawr’, y gyfres ddogfen gyntaf erioed ar gyfer plant cyn oed ysgol.
Roedd y gyfres gyntaf, a ddarlledwyd fel rhan o arlwy Cyw S4C yn y gwanwyn, mor boblogaidd nes iddynt gomisiynu 26 rhaglen arall, ac mae’r rheiny’n cael eu darlledu ar y sianel ar hyn o bryd.
Rhoddwyd y gyfres ar y rhestr fer yn y categori Digwyddiadau Byw Cyn-Ysgol ochr yn ochr â thair rhaglen gan CBeebies, Grandpa in my Pocket, Big and Small a Something Special.
Mae’r seremoni ysblennydd yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Hilton, Park Lane, Llundain, ddydd Sul 28 Tachwedd.
Sefydlwyd cwmni Nia, Ceidiog Cyf, ym 1996, ac mae newydd symud i adeilad mwy yn Rizla House, Pontypridd.
Meddai: “Rydw i wastad wedi breuddwydio am wneud rhaglen ddogfen ar gyfer plant ifanc iawn.
“Mae’r Diwrnod Mawr yn adrodd hanesion go iawn o fywydau plant go iawn – yn eu geiriau eu hunain yn bennaf.
“Mae plant wrth eu bodd yn gweld plant eraill ar y teledu. Dweud eu hanesion mewn rhaglen ddogfen ddifyr ond real yw fy nod i.
Mae’r Diwrnod Mawr yn llwyddo i bontio’r bwlch rhwng adloniant ac addysg, a rhoddodd y gwaith foddhad mawr i Nia, a fu’n chwilio ar hyd a lled y wlad am blant rhwng pedair a saith oed oedd â hanesion diddorol i’w hadrodd.
“Roedd yn anodd dewis pa blant i’w cynnwys –roedd gan bob un ohonyn nhw eu stori ac roedden nhw i gyd yn wych. Ond roedd treulio amser gyda’r plant a’u teuluoedd yn bleser aruthrol i mi,” meddai.
“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cyrraedd cyn belled, a beth bynnag fydd yn digwydd yn y seremoni, mae’n siŵr o fod yn ddiwrnod mawr i ni yn Ceidiog.
“Rwy’n ffan mawr o’r tair rhaglen arall ar y rhestr fer, sydd i gyd yn cael eu darlledu ar CBeebies – ac mae’n wych bod ar yr un rhestr â nhw.”
Roedd Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, wrth ei bodd gyda’r newyddion.
Meddai: “Mae’r Diwrnod Mawr yn gyfres Gymraeg arloesol sy’n rhoi blas i blant ifanc o raglenni ffeithiol a rhaglenni dogfen – rhaglenni sy’n cynnig profiadau cofiadwy sydd weithiau’n taro nodyn gyda nhw.
“Mae’r enwebiad yma’n profi fod buddsoddiad sylweddol S4C mewn rhaglenni plant wedi bod yn llwyddiant mawr a’i fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r iaith Gymraeg ac i fywyd diwylliannol Cymru.”
Gallai stori Nia ei hun fod wedi bod yn gwbl wahanol, oherwydd nid oedd byd teledu yn rhan o’i chynlluniau gyrfa cynnar.
Meddai, wrth edrych yn ôl: “Roeddwn yn benderfynol o fod yn athrawes Ffrangeg er pan oeddwn tua phump oed. A dweud y gwir roedd bron yn obsesiwn a arhosodd gyda mi tan ryw ychydig wythnosau cyn i mi raddio mewn Ffrangeg a Chymraeg yn Aberystwyth.”
Ond yn hytrach na mynd ymlaen i ddilyn cwrs i hyfforddi fel athrawes dilynodd gwrs drama a threulio blwyddyn ar ôl hynny fel actores gyda Chwmni Theatr Cymru cyn derbyn cais i ymuno â HTV Cymru fel cyflwynydd.
Dyna oedd cychwyn ei gyrfa ym myd teledu, a daeth Nia yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru.
Yn ystod seibiau yn ei gwaith fel cyflwynydd cyswllt ar S4C yn y 1980au dechreuodd Nia ysgrifennu straeon i blant. Ar ôl eu darlunio, fe’u defnyddiwyd i helpu i lenwi bylchau byr rhwng rhaglenni – ac yn y pen draw arweiniodd hynny at ysgrifennu’r clasur o gyfres i blant, Sam Tân.
Aeth yn ei blaen i ennill profiad gwerthfawr fel cynhyrchydd, gan fwynhau ei gwaith y tu ôl i’r camera.
“Achos o deimlo fy ffordd ac ennill profiad oedd hi. Rwyf wrth fy modd yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud – rwy’n ffodus iawn,” ychwanegodd.
Mae Ceidiog yn paratoi sawl gwahanol fath o raglen yn cynnwys rhai ar ffordd o fyw, rhaglenni dogfen a rhaglenni plant.
Gwnaeth hanes ym myd darlledu yn 2008 ar ôl taro bargen gyda Sianel Blant Al Jazeera ynglŷn â chyfres i blant cyn-ysgol, y Meees, sy’n dweud hanes teulu o ddefaid amlhiliol sy’n mwynhau dawnsio a chanu.
Prynodd Sianel Plant Al Jazeera’r gyfres gyntaf a’i hoffi cymaint nes iddynt benderfynu cyfrannu at ariannu’r ail a’r drydedd gyfres mewn partneriaeth â Ceidiog ac S4C.
Fel sylfaenydd a phennaeth y cwmni mae hefyd yn hynod falch o fod wedi derbyn dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl gan Gomisiwn Cyflogaeth a Sgiliau’r DU.
“Cwmni gweddol fach, ond cyfeillgar yw Ceidiog, sy’n cyflogi rhwng chwech a naw o bobl, ond byddwn hefyd yn cyflogi llawer o bobl sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain, a bu’r aseswyr yn eu cyfweld nhw hefyd,” meddai Nia.
“Mae’r dyfarniad yn deyrnged i holl aelodau’r tîm, sydd i gyd yn gwneud cyfraniad pwysig,” meddai. “Diwylliant y cwmni sydd wrth wraidd y cyfan, ac rydym yn hoffi meddwl ein bod yn trin pawb yn iawn.”
“Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn feincnod ar gyfer ansawdd – ac yn gydnabyddiaeth ein bod yn ymdrechu i wneud popeth yn dda iawn – o gynhyrchu i arferion y cwmni.”