Gethin â’r byd wrth ei draed

Mae myfyriwr prifysgol wedi ennill medal efydd ym mhencampwriaethau tae kwon do y byd.

Brwydrodd Gethin Ceidiog Hughes o Ddinbych, sy’n 18 oed, ei ffordd i rownd gynderfynol y twrnamaint a gynhaliwyd yn Arena Ryngwladol Telford.

Yn ôl ei hyfforddwr, Pete Williams, roedd yr hyn a gyflawnodd Gethin yn fwy rhyfeddol fyth oherwydd iddo anafu ei ben-glin a cholli llawer o amser hyfforddi yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

Mae Gethin, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, bellach yn astudio Dylunio Cynnyrch yn UWIC yng Nghaerdydd.

Dechreuodd ymarfer tae kwon do, crefft ymladd sy’n deillio o Gorea, bedair blynedd yn ôl ac mae’n mynychu dosbarthiadau Pete yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy.

Y llynedd enillodd Gethin fedal aur ym Mhencampwriaethau Caeedig Cymru yng Nghaerdydd a medal efydd ym Mhencampwriaethau Prydain yn Henffordd.

Ond roedd pencampwriaethau’r byd yn Telford yn dipyn mwy o her iddo gan fod yno 2,000 o gystadleuwyr o bob cwr o’r byd, o lefydd mor bell i ffwrdd ag America ac Awstralia.

Bu mab Pete, Terry, a enillodd fedal efydd ym mhencampwriaethau’r byd ei hun ychydig flynyddoedd yn ôl, yn ymarfer paffio gyda Gethin yn yr wythnosau cyn y digwyddiad, lle’r oedd yn cystadlu yn adran pwysau ysgafn y dynion i rai â belt coch.

Meddai: “Roedd hi’n gystadleuaeth andros o galed ac roeddwn wrth fy modd o fod wedi ennill medal efydd ym mhencampwriaethau’r byd.

“Rhaid i mi dalu teyrnged i Pete oherwydd mae o’n hyfforddwr hollol wych ac roedd y sesiynau ymarfer paffio gyda Terry yn help mawr i mi.”

Mae Pete, o Fynydd Isa, ger yr Wyddgrug, yn dal belt du 4ydd Dan. Mae wedi cymhwyso’n llawn fel hyfforddwr gyda Chymdeithas Tae Kwon Do Prydain ac mae’n dysgu tae kwon do yn Llanelwy ers 10 mlynedd.

Meddai: “Yma yn Llanelwy dw i’n ceisio helpu plant i ddod yn well, i ofalu amdanyn nhw eu hunain ac i fagu hyder ynddyn nhw eu hunain.

“Mae’n helpu i roi hyder iddyn nhw mewn bywyd ac yn dysgu hunanddisgyblaeth a hunanreolaeth iddyn nhw. Mae’n eich dysgu i barchu pobl eraill.

“Yn yr wythnosau’n arwain at bencampwriaethau’r byd, bu Gethin yn ymarfer paffio gyda Terry mewn sesiynau hyfforddi ychwanegol ar foreau Sadwrn.

“Mae Gethin wedi dangos bod ganddo’r ymrwymiad a’r gallu.

“Yn anffodus, cafodd anaf cyn y gystadleuaeth. Pe byddai wedi gallu hyfforddi i’r eithaf, rwy’n bur siŵr y gallai fod wedi ennill pencampwriaeth y byd yn reit hawdd.

“Dw i wrth fy modd oherwydd mae hyn yn glod aruthrol i glwb mor fach.

“Roedd yna gystadleuwyr o bob cwr o’r byd ac mae’n rhagorol fod Gethin wedi dod yn drydydd yn y byd. Mae’n gyrhaeddiad ardderchog.”

Cynhelir y dosbarthiadau tae kwon do yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy bob nos Fercher a nos Wener rhwng 7pm ac 8pm, gyda dosbarthiadau i blant iau rhwng 10am ac 11am ar fore Sadwrn. Mae’r wers flasu gyntaf yn rhad ac am ddim

Related Posts with Thumbnails