Ymgyrch golff newydd yn taro’r nod

Mae clybiau golff ledled Gogledd Cymru yn manteisio ar “lwyddiant aruthrol” gwasanaeth archebu ar-lein newydd.

Mae penderfyniad Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru i ganolbwyntio ei hymdrechion marchnata ar y rhyngrwyd yn talu ar ei ganfed.

O ganlyniad, bu cynnydd enfawr mewn archebion ar-lein sydd wedi cynhyrchu bron i £500,000 mewn ffioedd grîn yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Wrth wraidd llwyddiant yr ymgyrch mae’r wefan www.golf-northwales.co.uk a grëwyd gan y cwmni amser tïo blaenllaw, BRS, ac sy’n cael ei rhedeg ganddo.

Yn ogystal ag archebu ar-lein gall cwsmeriaid weld lluniau o’r gwahanol gyrsiau golff ynghyd â manylion am gynigion arbennig a llety cyfagos.

Hyd yn hyn, mae 19 o glybiau ar draws y rhanbarth wedi ymuno â’r cynllun ac mae mwy yn ymuno drwy’r amser.

Yn ôl y Bartneriaeth Twristiaeth, mae hefyd wedi gallu manteisio ar y cynnydd mewn diddordeb a grëwyd yn sgil pencampwriaeth Cwpan Ryder sy’n cael ei chynnal yn y Celtic Manor, Casnewydd, yn nes ymlaen eleni.

Ar ôl y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd, dyma’r trydydd digwyddiad o ran maint yng nghalendr chwaraeon y byd.

Mae Carole Startin, Swyddog Marchnata Gweithredol y Bartneriaeth Twristiaeth, wrth ei bodd fod y gwasanaeth archebu yn profi i fod yn gymaint o lwyddiant.

Meddai: “Mae’n llwyddiant anhygoel. Bellach mae’r clybiau wedi sicrhau 6,687 o archebion sydd wedi denu 19,426 o olffwyr i Ogledd Cymru.

“Maen nhw wedi cynhyrchu £468,351 mewn refeniw amser tïo – ond nid yw’r ffigwr yna’n adlewyrchu’r arian y mae’r golffwyr hefyd yn ei wario ar bethau fel llety, petrol, bwyd a diod ac eitemau eraill, yn ystod eu harhosiad.

“O Ganolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr, sef ein prif ardal darged, y daw’r mwyafrif o’r golffwyr sy’n dod i Ogledd Cymru.

“Mae’n galondid fod Cwpan Ryder wedi creu llawer iawn o ddiddordeb yr ochr draw i’r Iwerydd, yn Unol Daleithiau America.

“Mae mwy a mwy o olffwyr Americanaidd yn darganfod ein cyrsiau rhagorol yma yng Nghymru.

“Bu ein penderfyniad i ganolbwyntio ein hymdrechion ar-lein yn hynod o bwysig. Mae’r gallu i archebu ar-lein bob awr o’r dydd a’r nos yn hollbwysig.

“Mae’r system yn galluogi pobl i archebu lle ar hyd at chwe chwrs ar y tro, felly gallwch drefnu wythnos gyfan o chwarae golff gyda’i gilydd.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Croeso Cymru i gynyddu ein hymdrechion marchnata mewn ffordd gydgysylltiedig a chyfleu ein neges i’r byd.

“Yn ogystal â hynny, rydym yn cynnal cystadleuaeth fawr yr haf yma i un person ennill taleb 4-pêl ym mhob un o’n 30 prif glwb.

“Mae hyn yn cysylltu â phencampwriaethau proffesiynol yr haf Cwpan Ryder yng Nghymru, a gynhelir yng Nghonwy a Harlech.

“Rwy’n meddwl fod hon yn flwyddyn allweddol i ni. Rhaid i ni fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n dod yn sgil Cwpan Ryder a chynnal y momentwm ar ôl hynny.

“Mae gennym gyrsiau ardderchog yma yng Ngogledd Cymru, yn gyrsiau parcdir a chyrsiau ar y twyni.

“Maen nhw’n cynnig gwerth gwych am arian – mae rhai o’n hamseroedd tïo yn cynnig y gwerth gorau yn Ewrop – felly mae gennym gynnyrch golff gwerth chweil i’w gynnig.

“Ymrwymiad y clybiau i dwristiaeth golff a’n partneriaeth gydag awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am lwyddiant y cynllun yma.”

Golf swing

Am fwy o wybodaeth ewch i: www.golf-northwales.co.uk neu ffoniwch 0845 450 5885.

Related Posts with Thumbnails